Skip to main content

To: Leslie Griffiths AM, Minister for Environment, Energy and Rural Affairs

SAY NO TO PARC TRAFFWLL SOLAR, ANGLESEY

There are proposals for a Solar Farm on Farmland on Anglesey called Parc Traffwll Solar Ltd which will be presented to you for a decision as Development of National Significance.
We the undersigned implore you to reject this proposal.

Mae cynnig ar droed ar gyfer Fferm Solar ar dir amaethyddol ar Ynys Môn o dan y teitl ‘Parc Solar Traffwll Cyf a gaiff ei gyflwyno ichi benderfynu arno fel Datblygiad o Bwys Cenedlaethol.

Mae’r rhai sydd wedi arwyddo isod yn gofyn ichi wrthod y cynnig

Why is this important?

Anglesey, is a historical and beautiful island with breathtaking views towards the mountain ranges of Snowdonia –but now there is a threat that it could be turned to be an island of solar panels!

The developer’s intention is to fill 37 productive farmland fields totalling some 271 acres with solar panels and surround them with high mesh fencing and security cameras. The proposed development affecting an area of about 4 square miles is to be sited on farmland, some of the fields encompassing well used public footpaths. It will be seen for miles with a lifespan of 40 years with over 500 residences affected.

The site is outside of the Joint Local Development Plan for Solar Farms on Anglesey.

The site is adjacent to the RSPB Valley Wetlands bird reserve which will be affected and Llyn Traffwll a SSSI (site of special scientific interest) is within 10 metres of the proposed solar farm. These fields are valuable feeding grounds for Lapwing, Golden Plover, Starlings, Chough, Bittern and many more birds that require open space and very wet fields. Many Rabbit and Hare are present with Otters also now present.

There is already a large Solar Farm less than 5 miles away and when that was constructed the narrow country lanes were badly damaged and the Local Authority was left with the costs of repair. Access is via single track country lanes with high banks either side.

This is an area of country walks, cycle routes, horse riding with Bed and Breakfast, small caravan sites. This disruption during construction and the loss of visual amenity will mean a loss of jobs in the tourist sector.

There are listed buildings and Ancient monuments adjacent to the site and the fields have evidence of medieval ploughing practices. Further in depth archaeology needs to be done – not just desktop.

In addition to the solar panels, they are proposing to erect buildings to house major battery storage units and inverters on a C1 flood plain.

Unfortunately the Island has given its name the Energy Island – to create jobs. Solar farms don’t do that – they lose jobs. But if this goes ahead it will give a green light to other developers and sites with all the profit going to investors in London!

We don’t want to be known as the island of solar panels.

Please help us to STOP this proposed development by signing this petition. Stop the industrialisation of our countryside. We do believe in the use of solar panels - on industrial buildings, Brownfield sites, public buildings and private dwellings – NOT PRODUCTIVE FARMLAND.

Please see our website www.traffwll.co.uk for further information and join our Facebook group to air your views and be kept up to date.
Thank you.

Mae Ynys Môn yn ynys ac iddi hanes a harddwch unigryw, gyda golygfeydd godidog tuag at fynyddoedd Eryri – ond bellach mae bygythiad iddi fod yn ynys o baneli solar!

Bwriad y datblygwr ydy llenwi 37 o gaeau amaethyddol cynhyrchiol sy’n ymestyn i tua 271 o aceri, gyda phaneli solar gan eu hamgylchynu gyda ffens ‘mesh’ uchel a chamerau diogelwch. Mae’r datblygiad yn effeithio ar ardal o tua 4 milltir sgwar gyda rhai o’r caeau yn cynnwys llywbrau cyhoeddus a ddefnyddir yn gyson gan gerddwyr. Fe’i gwelir am ffiltiroedd a bydd yn bodloli am 40 mlynedd gan effeithio ar dros 500 o breswylfeydd.

Nid yw’r safle of fewn y tir a glustnodwyd fel tir addas ar gyfer Fferm Solar yng Nghynllun Datblygu Lleol Ynys Môn.

Mae’r safle yn ymyl gwarchodfa adar Gwlypdir RSPB y Fali ac mae Llyn Traffwll (sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig SSSI) o fewn 10 metr i’r fferm solar arfaethedig. Mae’r caeau hyn yn feithrinfeydd arbennig ar gyfer y Gylfinir, Chwilgorn y Twyn, Y Ddrudwy a’r Frân Goesgoch, Deryn y Bwn, ynghŷd â llawer o adar eraill sy’n dibynnu ar dir agored a gwlyb. Mae nifer o gwningod, sgwarnogod a dyfrgwn i’w gweld yn ogystal.

Eisoes mae Fferm Solar fawr llai na 5 milltir i ffwrdd a phan gafodd ei hadeiladu bu difrod sylweddol i ffyrdd gwledig a bu’n rhaid i’r Awdurdod Lleol ysgwyddo’r gost o’u trwsio. Dim ond trwy ddefnyddio ffyrdd cul gyda chloddiau uchel o bobtu y gellir cael mynediad i’r safleoedd dan sylw.

Mae hon yn ardal sy’n frith o lwybrau cerdded, llwybrau dynodedig i feicwyr, a rhai sy’n marchogaeth ceffylau, yn ogystal ceir yma nifer o lefydd Gwely a Brecwast a safleodd i garafannau. Bydd y gwaith adeiladu yn amharu ar dwristiaeth gyda rhai swyddi’n cael eu colli, ynghŷd â cholli golygfeydd.

Mae adeiladau rhestredig a Henebion yn ymyl y safle ac mae olion o ddulliau aredig canol oesol yn y caeau. Mae angen gwneud mwy o waith archaeolegol sy’n golygu gwaith turio a nid dim ond gwaith ymchwil ar gyfrifiadur yn unig.

Yn ychwanegol i’r paneli solar, mae bwriad i adeiladu llefydd i gadw unedau storio batris a gwrthdrowyr a hynny ar dir sy’n agored i lifogydd categori C1.

Yn anffodus mae’r Ynys yn arddel yr enw o Ynys Ynni – a hynny i greu swyddi. Nid yw ffermydd solar yn gwneud hynny – maent yn gyfrifol am golli swyddi. Os bydd y cynllun hwn yn cael ei ganiatâu bydd yn rhoi’r golau gwyrdd i ddatblygwyr a safeloedd eraill gyda’r holl elw yn mynd i bocedi buddsoddwyr yn Llundain!

Nid ydym eisiau’r label o gael ein hystyried fel ynys o baneli solar!

Helpwch ni i I RWYSTRO’R datblygiad hwn trwy arwyddo’r ddeiseb hon. Arbedwch gefn gwlad rhag troi yn faes diwydiannol. Rydym yn gweld gwerth mewn defnyddio paneli solar ond dim ond ar dir diwydiannol, Safleoedd Tir Llwyd adeiladau preifat a chyhoeddus – NID AR DIR AMAETHYDDOL CYNHYRCHIOL.

Ewch i’n gwefan www.traffwll.co.uk am fwy o wybodaeth ac ymunwch gyda’n Grwp Facebook i leisio’ch barn ac i gael y newyddion diweddaraf.

Diolch yn fawr.
Anglesey, United Kingdom

Maps © Stamen; Data © OSM and contributors, ODbL

Category

Links

Updates

2019-02-11 09:56:02 +0000

100 signatures reached

2019-02-10 21:18:42 +0000

50 signatures reached

2019-02-10 19:28:44 +0000

25 signatures reached

2019-02-10 18:31:25 +0000

10 signatures reached